Clydach Vale CF40 2BN - 374611 (Cym)

Ar gau 17 Tach 2023

Wedi'i agor 6 Hyd 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 12 Rhag 2023

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Siop Clydach, 19 - 20 Heol Clydach, Tonypandy, CF40 2BD, lle caiff ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Mae'r postfeistr presennol wedi ymddiswyddo, ac ni fyddai'r adeilad ar gael i’w ddefnyddio’n Swyddfa Bost. Felly, bu'n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Mae'n dda gennym ddweud ein bod wedi  cael hyd i bostfeistr newydd a fyddai'n dal i redeg y gwasanaeth Swyddfa'r Post o'r adeilad newydd arfaethedig.

 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.