Cefn Mawr LL14 3LN - 554614 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 5 Tach 2020
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Cefn Mawr LL14 3LN- Decision (Cym), 177.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: Siop Bapurau Newydd Rogers, 24 Y Stryd Fawr, Rhosymedre, Wrecsam, LL14 3YE, lle caiff ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Why are we moving?
Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Your new Post Office branch
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook