Caldicot – NP26 4LY – 442632 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 13 Awst 2024
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Cil-y-coed, ar ôl bod ar gau Annisgwyl, yn cael ei hailagor gennym ar ddydd Llun 9 Medi 2024 . Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Lifestyle Express Chepstow, Uned 4 Tŷ Holman, 36-38 Heol Casnewydd, Cil-y-coed, NP26 4BQ.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.
Pam bod eich barn yn bwysig
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
- Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
- Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
- Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Cil-y-coed.
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook