Bute Docks CF10 5AD - 156611 (Cym)

Ar gau 25 Gorff 2024

Wedi agor 27 Meh 2024

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Dociau Bute, a gaewyd yn annisgwyl, yn cael ei hailagor gennym ddydd Llun 19 Awst 2024 am 13:00.  Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Siop Taaz Cyfyngedig, 199 Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5HR,  lle caiff ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor  y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:

  • Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
  • Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
  • Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn yn y gymuned leol.

Diddordebau

  • Engagement