Burry Port SA16 0LP - 343642 (Cym)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod, yn dilyn cau Swyddfa Bost Porth Tywyn, y bydd y gangen yn cael ei hailagor gennym ddydd Llun 09 Medi 2024 am 13:00. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Siop Fwyd CK, Heol Gwscwm, Porth Tywyn, SA16 0BT, lle caiff ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.
Yn ogystal, bydd newid tymor byr i'r dyddiau a'r amserau agor, yn y gangen newydd, oherwydd amgylchiadau annisgwyl o'r wythnos sy'n dechrau dydd Llun 09 Medi 2024 i ddydd Llun 23 Medi 2024, lle bydd yn gweithredu ei oriau newydd.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.
Pam bod eich barn yn bwysig
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
- Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
- Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
- Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Porth Tywyn.
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook