Builth Wells LD2 3DN - 239644 (Cym)

Ar gau 21 Maw 2024

Wedi'i agor 8 Chwef 2024

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Adeiladau’r Goron (Banc Barclays ar hyn o bryd), 11 Y Stryd Lydan, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3AE, lle bydd yn dal i gael ei redeg fel un o’n canghennau lleol eu natur, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud Swyddfa Bost Llanfair-ym-Muallt i leoliad newydd er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Byddai’r adeilad arfaethedig yn cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys Swyddfa Bost Llanfair-ym-Muallt a siop gyfleustra.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.