Builth Wells LD2 3DN - 151644 (Cym)

Ar gau 29 Hyd 2019

Wedi'i agor 1 Hyd 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 12 Tach 2019

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn, yn dilyn cau Swyddfa Bost Llanfair-ym-Muallt dros dro, yn ailagor y gangen dydd Gwener 1 Tachwedd 2019. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Nightshades, 1 Y Stryd Fawr, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3DN. 

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig.

 

 

Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y Swyddfa Bost / yr ardal leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn y gymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd, er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost yn Llanfair-ym-Muallt.

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Llanfair-ym-Muallt.