Broughton CH4 0QR (Cym) 319614
Canlyniadau wedi'u diweddaru 17 Rhag 2021
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Broughton CH4 0QR - Decision (Cym), 134.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Thrifty’s, 7 Ffordd Neuadd Brychdwn, Brychdwn, Caer, CH4 0QR
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Fel y gwyddoch efallai, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn. mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i leoliad newydd er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.
Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa’r Post i’r gymuned leol yn yr hirdymor, ac mae’r Postfeistr yn credu’n gryf y bydd y symud yn helpu i gadw mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal â chynnal hyfywedd eu busnes.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook