Blaenavon NP4 9ND – 432632 (Cym)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn, yn dilyn cau Swyddfa Bost Blaenafon, yn ailagor y gangen ddydd Llun 24 Mawrth 2025 am 13:00. Bydd hyn mewn lleoliad newydd: 40 Y Stryd Lydan, Blaenafon, NP4 9NF (lle’r oedd Banc HSBC). Bydd y lleoliad newydd, sydd ar hyn o bryd yn wag, yn cael ei adnewyddu’n llwyr ar gyfer Swyddfa Bost Blaenafon.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.
Pam bod eich barn yn bwysig
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
- Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
- Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
- Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth i adfer gwasanaeth Swyddfa’r Post yn y gymuned leol.
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook